Criw o gogie o ardal Dyffryn Banw ym Maldwyn
yw Parti Cut Lloi. Ffurfiwyd y parti yn arbennig ar gyfer cystadlu yn Eisteddfod
Genedlaethol Meifod yn 2003. Daeth llwyddiant arbennig iddynt yn yr ŵyl wrth iddynt
gipio’r wobr gyntaf yn y gystadleuaeth ar gyfer partion gwerin. Yn dilyn hyn bu
galwadau mynych arnynt i gynnal nosweithiau llawen a chyngherddau led-led Cymru.
Y maent wedi ymddangos ar raglenni megis ‘Noson Lawen’ a ‘Cefn Gwlad’ ac ar y radio.
Un o nodweddion amlycaf y parti yw’r bwrlwm
a’r mwynhad amlwg a gant wrth ganu a’r amrywiaeth o adloniant a geir ganddynt. Gobeithio
y cewch chithau flas ar wrando ar y CD newydd o ganeuon gwerin
a hen garolau plygain, sy’n nodweddiadol o’r rhan hwn o Faldwyn.
Heb os, un person sy’n greiddiol i lwyddiant
Parti Cut Lloi yw ei harweinyddes amryddawn, Siân James. Gwyddom am ei dawn a’i
bri fel cantores ond diolchwn am iddi aros yn ei milltir sgwar i rannu o’i phrofiadau
eang ac ysbrydoli’r bechgyn i ganu mor afieithus ac egnïol. Mae’n haeddu medal am
gadw trefn ar rhain!
To view in English please click here. |